Mae Cymru eisoes yn un o wledydd gorau’r byd am ailgylchu. Rydym yn falch iawn o fod yn yr 2il safle. Ond a ninnau mor agos at y brig, dim ond un lle sydd ar ôl i fynd.
Yr Wythnos Ailgylchu hon (14–20 Medi), mae Cyngor Caerdydd yn cefnogi Ymgyrch Wych Cymru yn Ailgylchu i helpu Cymru i gyrraedd y brig, gan roi cyfle i rai o’r pethau bob dydd rydyn ni’n eu defnyddio yn y gwaith gael gyrfa ddisglair hefyd.
Oherwydd pan fyddwch chi’n rhoi eitem yn y bin cywir, rydych chi’n helpu i roi swydd arall iddi. Ac mae gan rai o’r deunyddiau ailgylchadwy hyn ragolygon ardderchog.
- Mae gan y can botensial mawr
Efallai bod y can diod gwag acw neu’r darn o ffoil brechdan wedi’i grychu yn edrych fel ei fod wedi gorffen am y diwrnod, ond mae ganddo lawer mwy o waith o’i flaen.
Gellir ailgylchu metel dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio. Ac mae ailgylchu dim ond un can yn arbed digon o ynni i bweru teledu am tua phedair awr.
Felly rhowch ef yn y bin cywir a’i anfon ymlaen i’w rôl fawr nesaf.
- Y bag te sy’n pweru’r rownd nesaf
Yn ôl i’r gwaith ar ôl gwyliau’r haf, mae tegell y swyddfa ar ddechrau ei dymor prysuraf. Y newyddion da yw bod gan eich bag te fwy i’w gynnig na’ch cynnal chi o un cyfarfod i’r llall.
Ailgylchwch chwe bag te a gellir cynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i ferwi tegell ar gyfer disgled arall. Nawr dyna beth yw tynnu eich pwysau.
Ac nid bagiau te yw’r unig wastraff bwyd sydd â dyfodol disglair. Gellir trawsnewid croen ffrwythau a gwastraff bwyd anfwytadwy arall yn ynni adnewyddadwy a gwrtaith llawn maetholion hefyd.
Felly, tra byddwch chi’n cymryd egwyl ginio haeddiannol, gallai eich gwastraff bwyd fod yn paratoi ar gyfer ei brosiect mawr nesaf.
- Y botel blastig gyda gyrfa newydd sbon o’i blaen
Wedi gorffen eich diod? Efallai bod diwrnod gwaith y botel drosodd, ond gallai ei gyrfa fod ond megis dechrau.
Mae ailgylchu un botel blastig yn arbed digon o ynni i wefru gliniadur bron yn llawn. Dyna ofalu am alwadau Teams yr wythnos hon.
Poteli plastig, potiau iogwrt, tybiau bargen ar bryd a thybiau plastig… rinsiwch nhw’n sydyn a’u rhoi yn y bin cywir fel y gellir eu prosesu a’u trawsnewid yn gynhyrchion a phecynwaith newydd.
O danwydd i chi wrth y ddesg, i’w rôl fawr nesaf.
O weithle yng Nghymru i uchelderau’r byd
Mae’r ailgylchu rydych chi’n ei roi yn y bin cywir yn cychwyn ar ei daith nesaf. A dydy’r daith honno ddim yn bell o gartref. Mae mwy na 90% o’r ailgylchu a gesglir yng Nghymru yn cael ei brosesu o fewn y Deyrnas Unedig, ac mae mwy na’i hanner aros yma yng Nghymru.
Ar ôl eu casglu, caiff deunyddiau eu sortio a’u prosesu cyn cael eu troi’n rhywbeth newydd. Mae gwastraff bwyd yn mynd ar drywydd gwahanol, gan helpu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy i bweru Cymru… a phweru eich diwrnod gwaith.
Lle bynnag rydych chi’n gweithio, ailgylchwch yno
P’un a ydych chi yn y swyddfa, yn gweithio o gartref, yn teithio i’r gwaith, yn cael tamaid i ginio neu’n mynd allan o amgylch y fro, does dim angen i ailgylchu fod yn rhywbeth ychwanegol ar eich rhestr tasgau. Ailgylchwch fel rhan o’ch diwrnod. Dewch o hyd i’r bin cywir a rhoi ei rôl nesaf i’ch ailgylchu.
Oherwydd mae pob eitem sy’n cael ei hailgylchu’n gywir yn helpu i gadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad, cynhyrchu ynni adnewyddadwy a mynd â Chymru un cam yn nes at y brig.
Rydyn ni eisoes yn Rif 2 yn y byd. Mae’n bryd i Gymru gael dyrchafiad haeddiannol. Amdani i Rif 1.


Comments are closed.