Wrth i flwyddyn academaidd arall ddod i ben, daeth miloedd o fyfyrwyr i baratoi fynd adref neu i ddechrau antur newydd rhywle eraill. Cyn iddynt adael eu llety, mae cwestiwn cyfarwydd yn dod i fyny: Beth sy’n digwydd i eitemau nad oes eu hangen arnynt mwyach?
Dyna ble mae ymgyrch Cyngor Caerdydd Myfyrwyr ar Fynd yn dod fewn.
Mae tîm Strategaeth Wastraff Cyngor Caerdydd yn helpu myfyrwyr i reoli eu gwastraff yn gyfrifol pan fyddant yn symud allan. Roedd y mentrau’n cynnwys allgymorth cymunedol, ymgyrchoedd o ddrws i ddrws, ac am dair wythnos ar draws mis Mehefin a mis Gorffennaf, sefydlwyd dau safle ailgylchu dros dro yn Cathays a Plasnewydd. Daeth yr ymgyrch i fwy na 5,000 o fyfyrwyr. Arweiniodd hyn at ailddefnyddio ac ailgylchu mwy na 17 tunnell. Arweiniodd hefyd at dros 500kg o fwyd a roddwyd i Fanc Bwyd Caerdydd.
Mae’r canlyniadau hyn yn dangos effaith yr ymgyrch yn tyfu. Rhoddodd tros 17 tunnell o ddeunydd o wastraff cyffredinol adnoddau hanfodol i nifer o bartneriaid cymunedol.
Roedd effaith yr ymgyrch hyn yn mynd tu hwnt i ailgylchu ag i lleihau gwastraff.
Derbyniodd NuLife Furniture eitemau cartref a roddwyd, fel dodrefn, offer cegin, lampau, ac offer trydanol bach. Mae’r rhoddion hyn yn helpu eraill i sefydlu eu cartrefi cyntaf.
Aeth caniau a bagiau o fwyd oedd heb ei agor i Fanc Bwyd Caerdydd i gefnogi teuluoedd lleol. Yn y cyfamser, daeth llawer o nwyddau y gellir eu hailddefnyddio o hyd i gartrefi newydd yn Siop Ailddefnyddio Gwastraff Caerdydd.
Rhoddwyd y dillad a gasglwyd yn ystod yr ymgyrch i Cowley Community Closet yn HwbClwb Canton, lle mae dillad wedi’u hatgyweirio, eu hail lliwio a’u hail-ddosbarthu drwy eu gwasanaeth Siop Cyfnewid. Mae hyn yn helpu i hyrwyddo ffasiwn gynaliadwy ac yn rhoi bywyd newydd i ddillad, ac mae wedi helpu i arbed mwy na 200kg o decstiliau a allai fod wedi cael eu hanfon i’w losgi fel arall.
Aethpwyd ag unrhyw ddeunyddiau a oedd yn weddill i Ganolfan Ailgylchu Ffordd Lamby, lle cawsant eu hailgylchu’n briodol.
I lawer o fyfyrwyr, gall symud allan deimlo’n llethol. Esboniodd un myfyriwr a oedd yn ymweld â chasgliad dros dro, ‘Mae symud allan yn gyfnod prysur, felly gwnaeth cael ffordd hawdd o roi ac ailgylchu eitemau wahaniaeth gwirioneddol.’
Roedd yn teimlo’n llawer gwell gan wybod y gallai pethau nad oedd eu hangen arno fwyach, fynd at rywun arall yn y gymuned yn hytrach na dod i ben fel gwastraff.
Mwy na Symud Allan
Roedd llwyddiant yr ymgyrch yn amlwg o ran sut roedd yn effeithio ar y rhai oedd yn cymryd rhan a chymunedau Caerdydd.
Dywedodd y Rheolwr Prosiect Alex Hill o’r ymgyrch Myfyrwyr ar Fynd, “Daeth llwyddiant eleni o’r miloedd o fyfyrwyr a ddewisodd gyfrannu, ailddefnyddio, ac ailgylchu yn hytrach na thaflu eitemau i ffwrdd. Dangosodd y myfyrwyr ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd a’r gymuned leol drwy roi offer cegin, dillad, a bwyd heb ei agor.
Ychwanegodd Swyddog Strategaeth Gwastraff ac Ymgysylltu Sam Blee, “Daeth pob rhodd gan fyfyrier a ddewisodd gadw eitemau defnyddiol mewn cylchrediad. Helpodd yr ymdrechion hyn i wneud Caerdydd yn lanach drwy anfon bwyd i fanciau bwyd, cefnogi elusennau lleol, a hybu cyfraddau ailgylchu.”
Wrth i’r flwyddyn academaidd ddod i ben, mae’r ymgyrch Myfyrwyr ar Fynd yn dangos sut y gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr. Drwy gyfrannu, ailddefnyddio ac ailgylchu, mae myfyrwyr Caerdydd wedi lleihau gwastraff ac wedi cefnogi elusennau ar draws y ddinas. Diolch i’w haelioni a’u hymrwymiad, mae miloedd o eitemau wedi cael ail gyfle ac mae cymunedau ledled Caerdydd wedi elwa.
Cyhoeddwyd gyntaf Gorffennaf 2026


Comments are closed.