PACT yr Eglwys Newydd a McDonalds yn gwneud gwahaniaeth yn yr Eglwys Newydd
Mae PACT yr Eglwys Newydd wedi bod yn pleidio ers talwm dros greu Eglwys Newydd sy’n lân ac yn daclus, ac ardal sy’n eithaf problemus yw Longwood Drive, oddi ar Gylchfan Coryton. Felly ynghyd â’r McDonalds lleol a phreswylwyr gwirfoddoli eraill, maent yn cyflawni sesiwn codi sbwriel bob tri mis. Darllenwch hanes sesiwn codi sbwriel diwethaf y grŵp:
SESIWN CODI SBWRIEL CYMUNEDOL
Roedd y tywydd yn oer ond ni rwystrodd 16 o wirfoddolwyr rhag dod ynghyd i godi sbwriel yn Longwood Drive, Coryton.
Yn anffodus, teflir sbwriel yn y ffordd hon yn barhaol gan berchenogion ceir sy’n dewis gwaredu eu sbwriel yn ein Gwarchodfa Natur, er bod biniau ar gael yno.
Defnyddir Longwood Drive gan bobl sy’n rhannu ceir, pan fônt yn dychwelyd i’w ceir mae llawer o bobl yn dewis taflu sbwriel eu cinio, caniau, poteli o’r diwrnod hwnnw, a hyd yn oed eu bŵts a’u tabardiau gwaith wedi’u defnyddio, yn gwagio eu faniau o’u sbwriel dyddiol neu wythnosol. Mae llawer o bobl sy’n defnyddio siopau bwyd lleol yn gwneud yr un peth gyda’u cwpanau coffi neu’u pecynnau tecawê.
Casglodd y grŵp hwn o wirfoddolwyr 26 bag o sbwriel, ynghyd ag eitemau wedi’u tipio’n anghyfreithlon gan gynnwys peiriant argraffu, pibell fetel fawr, teclyn codi car, potel plastig mawr iawn gyda hylif anhysbys ynddo a handlenni troli archfarchnad. Cafwyd hefyd dabard a gwaith papur gydag enw a manylion cyswllt arno, bydd y person hwnnw yn derbyn gohebiaeth gan Swyddog Gorfodi CDC.
Gwnaethpwyd gwirfoddolwyr o’r grwpiau canlynol wahaniaeth i’r ardal hon o’r Eglwys Newydd; Ymgyrchwyr Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus, Ymgyrchwyr Sbwriel Carwch Eich Cartref, Gwroniaid Gwastraff yr Eglwys Newydd, staff McDonalds sy’n trefnu’r sesiynau codi sbwriel a thîm Glanhau Strydoedd Cyngor Caerdydd a’u cefnogodd hefyd.
Mae McDonalds Coryton hefyd yn gweithio’n galed i gadw’r ardal yn lân, gan godi sbwriel o’r safle a ffyrdd cyfagos yn rheolaidd i geisio eu cadw’n rhydd o sbwriel gymaint â phosibl. Maent yn cefnogi sesiynau codi sbwriel gyda staff sy’n gwirfoddoli ar eu gwyliau. Ar ôl y sesiwn mae gwirfoddolwyr a gymerodd ran hefyd yn cael paned am ddim!
Mae McDonalds Coryton hefyd newydd osod bin newydd oddi ar eu safle ac ar hyd Longwood Drive y maent yn ei wagio bob dydd i geisio annog pobl i roi eu sbwriel yn y bin yn lle ei daflu ar y llawr. Dim ond pythefnos sydd wedi bod ac mae eisoes yn gwneud gwahaniaeth i’r ardal leol.
Cyhoeddedig: | 26/02/2018 |
Comments are closed.