10
Awst 2022
10:00AM-11:30AM
Carwch Eich Parciau, Codi Sbwriel yn yr haf - Parc y Tan

Mae’r haf yma ac mae’n bryd mwynhau ein parciau gwych.   Dewch i gwrdd â’r Tîm Carwch Eich Cartref ac ymuno â ni ar gyrch i gasglu sbwriel yn yr haf.

Mae’n gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i’r ardal leol, yn ogystal â dod i adnabod eich cymdogion ychydig yn well.

Ble: Parc y Tan – cwrdd yn Stryd Virgil/mynedfa Virgil Court

Pryd: 10am – 11.30am

Caiff yr holl offer ei ddarparu, ac mae croeso cynnes i blant ddod hefyd (mae crafangau sbwriel llai gennym ar gyfer dwylo bach) – er mae’n rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn.

Gwisgwch esgidiau addas, a sicrhau eich bod yn gwisgo dillad sy’n addas i’r tywydd.

Map ddim ar gael

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd