Caerdydd yn Ailgylchu – Ffordd newydd o ailgylchu eich eitemau trydanol.
Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio ei brosiect newydd sbon, Caerdydd yn Ailgylchu.
Nod y prosiect yw lleihau e-wastraff a’i effaith amgylcheddol yn sylweddol, drwy ei gwneud hi’n haws i bobl ailgylchu eu trydan.
Mae Caerdydd yn Ailgylchu wedi gosod 20 banc ailgylchu pinc ar gyfer offer trydan bach. Gallwch ddod o hyd i’r rhain mewn lleoliadau hawdd eu cyrraedd, gan gynnwys Hybiau lleol a chanolfannau cymunedol ar draws y ddinas.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Material Focus, y sefydliad nid-er-elw, a’i nod yw atal y genedl rhag taflu i ffwrdd neu gadw’n ddiangen eu hoffer trydan hen a bach.
Rydym hefyd wedi partneru gyda Wastesavers sy’n cynnal profion trydanol a gwiriadau diogelwch (profion PAT) ar gyfer eitemau y gellir eu hailddefnyddio. Bydd yr eitemau hyn ar werth am brisiau fforddiadwy yn siop ailddefnyddio Wastesavers yn Ffordd Lamby.