31
Hyd 2020
10:00AM-11:30AM
Butetown - codi sbwriel cymunedol

Drigolion mwyn y Butetown

Beth am Carwch Eich Caerdydd a chymryd rhan mewn ymgyrch godi sbwriel cymunedol. Mae’n gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i’r ardal leol, yn ogystal â dod i adnabod eich cymdogion ychydig yn well.

Ble? TBC

 

Byddwn yn dilyn holl Ganllawiau Llywodraeth Cymru ar Covid-19 a byddwn yn cymryd yr holl ragofalon diogelwch angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys glanweithio’r holl offer cyn ac ar ôl y digwyddiad, cynnal ymbellhau cymdeithasol, cyfyngu nifer y cyfranogwyr i ddim mwy na 30, a chymryd manylion cyswllt at ddibenion Tracio ac Olrhain.

Caiff yr holl offer ei ddarparu, ac mae croeso cynnes i blant ddod hefyd (mae crafangau sbwriel llai gennym ar gyfer dwylo bach).

NI fyddwn yn benthyg menig – dewch â’ch menig eich hun os hoffech gael rhai ar gyfer y dewis.

 

Gwisgwch esgidiau addas, a sicrhau eich bod yn gwisgo dillad sy’n addas i’r tywydd.

 

Gofynnwn hefyd i chi beidio â dod i’r digwyddiad os ydych yn teimlo’n sâl neu os ydych fel arall yn dangos symptomau oer neu ffliw fel symptomau, bod gennych dymheredd uchel, peswch newydd a pharhaus a/neu wedi colli eich synnwyr o flas neu arogl.

 

Os carech wybod mwy am y digwyddiad, neu i gymryd rhan mewn modd arall mae croeso i chi gysylltu â thîm Carwch Eich Caerdydd yng Nghyngor Caerdydd ar 02920 717564  neu e-bostiwch carwcheichcaerydd@caerdydd.gov.uk

 

Mae’n rhaid i bob cyfranogwr gofrestru ar gyfer tocyn trwy’r safle hwn – https://www.eventbrite.co.uk/o/carwch-eich-caerdydd-love-where-you-live-31264897955 

Map ddim ar gael

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd