Am bythefnos yr hydref hwn, cynhelir Tacluso Caerdydd ledled y brifddinas, o dan arweiniad Cadwch Gymru’n Daclus, Carwch Eich Cartref a Grŵp Afonydd Caerdydd.
Cwrdd am 09:45 ar Plymouth Great Woods.
Caiff yr holl offer — menig, picwyr sbwriel, bagiau, cylchoedd, ac ati — ei gynnwys.
Ond os oes gennych rai eich hun, dewch â nhw â chi.
Gwisgwch welintons neu sgidiau cadarn a dillad addas at yr awyr agored.
Dewch atom – a gwneud Gwahaniaeth!
Cardiff Rivers Group | Facebook
Upcoming Events | Cardiff Rivers Group
O ddydd Sadwrn 21ain Medi i ddydd Sul 6ed Hydref mae croeso i bawb ymuno ag un (neu fwy!) o’r digwyddiadau a gynhelir gan Hybiau Casglu Sbwriel Lleol, Grwpiau codi sbwriel cymunedol a Grwpiau Afonydd Caerdydd – gyda’r nod #CarwchEichCartref a chreu #Caerdydd lanach, wyrddach.
Dewch o hyd i ddigwyddiad yn agos i chi – https://keepwalestidy.cymru/cy/events/tacluso-caerdydd/
Cymuned – Keep Cardiff Tidy (cadwchcaerdyddyndaclus.com)
Os oes gennych ddiddordeb yn cynnal eich digwyddiad eich hun fel rhan o Dacluso Caerdydd, cysylltwch â ni carwcheichcaerdydd@caerdydd.gov.uk neu Gareth Davies o Cadw Cymru’n Daclus ar
gareth.davies@keepwalestidy.cymru