Mae’r haf yma ac mae’n bryd mwynhau ein parciau gwych. Dewch i gwrdd â’r Tîm Carwch Eich Cartref ac ymuno â ni ar gyrch i gasglu sbwriel yn yr haf.
Mae’n gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i’r ardal leol, yn ogystal â dod i adnabod eich cymdogion ychydig yn well.
Ble: Parc y Tyllgoed – cwrdd yn yr ardal chwarae plant
Pryd: 1.30pm – 3pm
Caiff yr holl offer ei ddarparu, ac mae croeso cynnes i blant ddod hefyd (mae crafangau sbwriel llai gennym ar gyfer dwylo bach) – er mae’n rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn.
Gwisgwch esgidiau addas, a sicrhau eich bod yn gwisgo dillad sy’n addas i’r tywydd.