Drigolion mwyn Llanishen. Am bythefnos yr hydref hwn, cynhelir Tacluso Caerdydd ledled y brifddinas, o dan arweiniad Cadwch Gymru’n Daclus, Carwch Eich Cartref a Grŵp Afonydd Caerdydd.
Beth am Garu Eich Cartref a chymryd rhan mewn ymgyrch godi sbwriel cymunedol. Mae’n gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i’r ardal leol, yn ogystal â dod i adnabod eich cymdogion ychydig yn well.
Ble: 77 Parc Ty Glas, CF14 5DU
Caiff yr holl offer ei ddarparu, ac mae croeso cynnes i blant ddod hefyd (mae crafangau sbwriel llai gennym ar gyfer dwylo bach). Rhaid i bob plentyn aros o dan oruchwyliaeth rhiant neu warchodwr yr holl amser.
Gwisgwch esgidiau addas, a sicrhau eich bod yn gwisgo dillad sy’n addas i’r tywydd.
O ddydd Sadwrn 21ain Medi i ddydd Sul 6ed Hydref mae croeso i bawb ymuno ag un (neu fwy!) o’r digwyddiadau a gynhelir gan Hybiau Casglu Sbwriel Lleol, Grwpiau codi sbwriel cymunedol a Grwpiau Afonydd Caerdydd – gyda’r nod #CarwchEichCartref a chreu #Caerdydd lanach, wyrddach.
Dewch o hyd i ddigwyddiad yn agos i chi – https://keepwalestidy.cymru/cy/events/tacluso-caerdydd/
Cymuned – Keep Cardiff Tidy (cadwchcaerdyddyndaclus.com)
Os oes gennych ddiddordeb yn cynnal eich digwyddiad eich hun fel rhan o Dacluso Caerdydd, cysylltwch â ni carwcheichcaerdydd@caerdydd.gov.uk neu Gareth Davies o Cadw Cymru’n Daclus ar
gareth.davies@keepwalestidy.cymru