29
Gor 2025
10:00AM-1:00PM
Parc Sglefrio Llaneirwg - Carwch Eich Parciau

St Mellons Skatepark


Mae’r haf yma ac mae’n bryd mwynhau ein parciau gwych.   Dewch i gwrdd â’r Tîm Carwch Eich Cartref ac ymuno â ni ar gyrch i gasglu sbwriel yn y parc.

Bydd ein Gasebo Carwch Eich Cartref allan a byddwn yn cynllunio strafagansa casglu sbwriel!

Dewch i chwarae Bingo Sbwriel! Faint o’n heitemau Bingo Sbwriel allwch chi ddod o hyd iddyn nhw yn eich parc lleol?

Gall unrhyw un sy’n casglu sbwriel gyda ni wedyn blannu hadau blodau yn ein compost. Compost sy’n cael ei wneud o Wastraff Gardd Caerdydd!

Mae’n gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i’r ardal leol, yn ogystal â dod i nabod eich cymdogion ychydig yn well.

Ble:  Parc Sglefrio Llaneirwg, Ger y Parc Sglefrio, y tu ôl i Hyb Llaneirwg    https://w3w.co/canlynol.ystadau.colegau

Pryd: 29/07/2025       10am – 1pm

Galwch draw unrhyw bryd tra byddwn ni yna i roi cynnig ar gasglu sbwriel neu i gael sgwrs gyda ni!

Caiff yr holl kloffer ei ddarparu, ac mae gennym grafangau sbwriel llai ar gyfer dwylo bach – er mae’n rhaid i bob plentyn dan 18 fod yng nghwmni oedolyn.

Gwisgwch sgidiau addas, a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad sy’n addas i’r tywydd.

 

Loading Map....

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd