03
Awst 2023
10:00AM-2:00PM
Parc y Tân - Carwch Eich Parciau 2023

Mae’r haf yma ac mae’n bryd mwynhau ein parciau gwych.   Dewch i gwrdd â’r Tîm Carwch Eich Cartref ac ymuno â ni ar gyrch i gasglu sbwriel yn y parc.

Bydd ein Gasebo Carwch Eich Cartref allan a byddwn yn cynllunio strafagansa casglu sbwriel!

Dewch i chwarae Bingo Sbwriel! Faint o’n heitemau Bingo Sbwriel allwch chi ddod o hyd iddyn nhw yn eich parc lleol?

Byddwn yn casglu sbwriel mewn gwisg ffansi, felly os ydych chi awydd casglu sbwriel yn eich ardal leol wedi gwisgo fel eich hoff gymeriad teledu neu greadur ffantasi, dewch draw!

Gall unrhyw un sy’n casglu sbwriel gyda ni wedyn blannu hadau blodau yn ein compost. Compost sy’n cael ei wneud o Wastraff Gardd Caerdydd!

Mae’n gyfle gwych i wneud gwahaniaeth i’r ardal leol, yn ogystal â dod i nabod eich cymdogion ychydig yn well.

Ble: 03/08/23 Parc y Tân – mynedfa Stryd Virgil / Virgil Court

Pryd: 10am – 2pm

Galwch draw unrhyw bryd tra byddwn ni yna i roi cynnig ar gasglu sbwriel neu i gael sgwrs gyda ni!

Caiff yr holl offer ei ddarparu, ac mae gennym grafangau sbwriel llai ar gyfer dwylo bach – er mae’n rhaid i bob plentyn dan 18 fod yng nghwmni oedolyn.

Gwisgwch sgidiau addas, a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad sy’n addas i’r tywydd.

Map ddim ar gael

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd