Cofrestrwch i fod yn hyrwyddwr casglu sbwriel

    Manylion Personol

    Cyfeiriad

    Manylion Cyswllt

    Cyflyrau Iechyd

    A oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd y gallai codi sbwriel gyda ni effeithio arnynt? Mae’n bosib y byddwn yn cysylltu â chi i gyngor cyngor a chymorth fel rhan o’n hasesiad risg.

    Ydych chi’n ystyried eich hun yn anabl?

    A oes gennych ofalwr neu weithiwr cymorth ar hyn o bryd?

    Manylion Cyswllt mewn Argyfwng

    Arwr Sbwriel

    Os ydych yn rhiant neu warcheidwad unrhyw blant dan 18 mlwydd oed ac yn awyddus i gofrestru i ddod yn Arwr Sbwriel, llenwch y blychau isod.

    Arwr Sbwriel 1

    Arwr Sbwriel 2

    Arwr Sbwriel 3

    Arwr Sbwriel 4

    Arwr Sbwriel 5

    Arwr Sbwriel 6

    Datganiad

    Cyn cyflwyno'ch cais, mae'n rhaid i chi gytuno ar yr amodau canlynol:

    • Rwy’n datgan bod y wybodaeth a roddir ar y ffurflen hon yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth a’m cred.

    • Rwy’n cytuno i wneud y canlynol:

      • Cadw at yr arferion gwaith diogel a amlinellir yn fy Llawlyfr / Hyfforddiant Ymgyrchwyr Sbwriel

      • Defnyddio’r offer casglu sbwriel diogel a'r cyfarpar Diogelu Personol a gyflenwir yn y loceri Ymgyrchwyr Sbwriel bob amser

      • Bod yn gyfrifol am unrhyw blant sy'n casglu sbwriel gyda mi

      • Dim ond codi sbwriel a rhoi gwybod am unrhyw beth arall (tipio anghyfreithlon / sbwriel peryglus). Manylir ar sianeli adrodd yn y Llawlyfr / Hyfforddiant Ymgyrchwyr Sbwriel

      • Parchu gwirfoddolwyr eraill, aelodau o staff a’r cyhoedd.

      • Cofnodi fy nghasgliadau sbwriel a rhoi gwybod i'r tîm Carwch eich Cartref yn rheolaidd am fy ngweithgarwch.

      • Rhoi gwybod i’r tîm Carwch Eich Cartref cyn gynted â phosibl am unrhyw newid mewn amgylchiadau.

      • Dychwelyd yr offer i’r locer yn yr Hyb fel y bydden i’n disgwyl ei ganfod a rhoi gwybod am unrhyw ddifrod.

      • Rhoi gwybod i’r tîm Carwch Eich Cartref os ydw i’n anhapus neu’n poeni am unrhyw beth, neu os ydw i am roi’r gorau i wirfoddoli.

    Caiff y wybodaeth a rowch yn y ffurflen hon ei thrin yn gyfrinachol, yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a’r Egwyddorion Diogelu Data Cyffredinol. Caiff unrhyw ddata a roddir gennych ar y ffurflen hon ei brosesu yn unol â gofynion y Ddeddf Diogelu Data, ac wrth ei roi rydych chi’n caniatáu i Gyngor Caerdydd ei brosesu at y diben y’i rhoddwyd. Bydd yr holl wybodaeth bersonol a roddir yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol a dim ond at ddibenion a ganiateir gan y gyfraith y bydd yn cael ei defnyddio gan Gyngor Caerdydd neu ei datgelu i eraill. Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â carwcheichcartref@caerdydd.gov.uk. Os felly, byddwn yn rhoi'r gorau i brosesu cyn gynted ag y gallwn. Fodd bynnag, ni fydd yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a wnaed cyn i chi dynnu’r cydsyniad yn ôl. Mae gennych hefyd hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Os hoffech chi ofyn am gopi, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost uchod. Byddwn ond yn cadw'ch data cyhyd ag y bydd ei angen arnom i gyflawni ein dibenion, gan gynnwys unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd. Bydd eich data'n cael ei gadw'n ddiogel yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r Cyngor.

    Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

    © Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

    Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd