Tacluso Caerdydd llwyddiannus arall diolch i fwy na 800 o wirfoddolwyr
Yr hydref hwn, daeth gwirfoddolwyr ledled y brifddinas at ei gilydd unwaith eto fel rhan o ymgyrch Tacluso Caerdydd 2025, gan gasglu 1,165 o fagiau o sbwriel
Rhwng 26 Medi a 12 Hydref 2025, cafwyd cynnydd mawr mewn gweithredu cymunedol wrth i Tacluso Caerdydd ddychwelyd ar ôl llwyddiant y llynedd. Wedi’i drefnu gan Cadwch Gymru’n Daclus mewn partneriaeth â Carwch Eich Cartref (Cyngor Caerdydd) a Grŵp Afonydd Caerdydd, daeth y digwyddiad glanhau dros bythefnos â gwirfoddolwyr o bob cwr o’r ddinas ynghyd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu hamgylchedd lleol.
Cynhaliwyd 114 o ddigwyddiadau codi sbwriel a glanhau mewn ardaloedd o amgylch y ddinas, gyda chefnogaeth Hybiau Codi Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus a grwpiau cymunedol angerddol. Gweithiodd gwirfoddolwyr yn ddiflino i gadw strydoedd, parciau a glannau afonydd Caerdydd yn rhydd o sbwriel, gan gofnodi 1,543 o oriau gwirfoddoli.
Denodd yr ymgyrch, sydd wedi datblygu’n ddigwyddiad blynyddol, fwy na 800 o wirfoddolwyr, bron dwbl niferoedd y llynedd, a chasglwyd 1,165 o fagiau o sbwriel i gyd, gan ddangos pŵer gweithredu ar y cyd.
Meddai Gareth Davies, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus yng Nghaerdydd:
“Rydym yn hynod falch o’r ymdrech anhygoel a ddangoswyd gan bobl Caerdydd unwaith eto, ac rwyf am ddiolch i’r holl Ymgyrchwyr Sbwriel, gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau a gymerodd ran.
“Mae Tacluso Caerdydd yn llawer mwy na chael gwared ar sbwriel; mae’n ymwneud â datblygu ymdeimlad cryfach o gymuned a balchder yn ein dinas.”
Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wastraff, Strydlun a Gwasanaethau Amgylcheddol:
“Diolch o galon i bob gwirfoddolwr a dorchodd eu llewys ac ymunodd ag ymgyrch Tacluso Caerdydd eleni.
“Gyda’ch cefnogaeth chi i helpu i gadw Caerdydd yn daclus, rydym wedi gwneud gwahaniaeth mawr, gyda 1,543 o oriau gwirfoddoli, gan arwain at gasglu 1,165 o fagiau o sbwriel, gan helpu i greu Caerdydd lanach a gwyrddach.
“Gyda’n gilydd, fe wnaethon ni brofi pan fydd cymuned yn dod at ei gilydd, y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
Mae Tacluso Caerdydd 2025 yn cael ei ariannu gan gronfa Cadernid Caerdydd mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd.
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan ymgyrch Tacluso Caerdydd, ac eisiau cymryd rhan yn y gwaith o wneud eich ardal leol yn lanach ac yn wyrddach, gallwch ddod o hyd i’ch hyb casglu sbwriel agosaf ar ein map rhyngweithiol yma.


Comments are closed.