Cyngor Caerdydd yn cyflwyno biniau newydd lliwgar wrth i Gaerdydd weithio i leihau sbwriel ar draws ei strydoedd mawr, ei pharciau a’i hardaloedd preswyl, fel rhan o ‘Caerdydd Daclus a Hapus’.
Mae trigolion yng Nghaerdydd ar fin elwa o finiau lliwgar newydd. Mae’r ymgyrch i’w gweld yn Grangetown, Glan-yr-afon, Butetown, Y Sblot, Adamsdown, Treganna, Cathays a Phlasnewydd.Yn dilyn ein cais llwyddiannus am gyllid drwy’r grant Neat Streets, mae Caerdydd wedi derbyn £10,000 oddi wrth McDonald’s¹ a chefnogaeth gan Hubbub i uwchraddio dros 100 o finiau presennol gyda dyluniadau trawiadol newydd, ac i osod biniau sigaréts, gyda’r nod o leihau sbwriel stympiau sigaréts.
Mae dyluniadau’r biniau newydd yn chwarae ar eiriau o ganeuon gan enwogion cerddoriaeth Cymru, motiffau gemau a mwyseiriau eraill sy’n gysylltiedig â sbwriel, i annog pobl sy’n cerdded heibio i roi eu sbwriel yn y bin.
Mae ymgyrch sbwriel Caerdydd i’w chroesawu, ar ôl i ymchwil gan Cadwch Gymru’n Daclus ganfod bod Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel cynyddol sy’n bygwth ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a’n ffyniant yn y dyfodol.
Datgelodd arolygon sbwriel stryd ledled Cymru gynnydd syfrdanol o 286% yn nifer y strydoedd â gradd ‘D’ – y rhai sydd â lefel glendid gwbl annerbyniol – sef un o’r canlyniadau gwaethaf yn ystod y 17 mlynedd o fonitro².
Mae’n parhau i fod yn broblem gynyddol ledled y wlad, er gwaethaf ymchwil gan Hubbub sy’n dangos bod 62% o bobl yn teimlo’n grac pan fyddant yn gweld sbwriel ar y llawr. Mae dau o bob pump o bobl yn teimlo’n rhwystredig am y ffaith nad oes mwy o finiau nac ymgyrchoedd i fynd i’r afael â sbwriel³.
Mae sbwriel yn costio swm sylweddol o arian i’r Cyngor bob blwyddyn – gyda chyllideb glanhau strydoedd o £7m yn ei lle i lanhau a chlirio strydoedd Caerdydd.
Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch ‘Caerdydd Daclus a Hapus’ yn helpu i gyflawni’r nod o leihau sbwriel yng nghymunedau Caerdydd.
Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wastraff, Strydlun a Gwasanaethau Amgylcheddol yng Nghyngor Caerdydd: “Mae gollwng sbwriel ar y llawr yn gwbl ddiangen, ac mae’n costio swm sylweddol o arian i’r trethdalwr bob blwyddyn – arian y gellid ei wario ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill. Mae adnewyddu’r biniau sbwriel yn y wardiau hyn yn ffordd dda o dynnu sylw atynt, felly gobeithio y bydd pobl yn eu defnyddio ac yn helpu i gadw strydoedd y ddinas yn lân ac yn daclus.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl grwpiau cymunedol sy’n gweithio gyda’n staff i gynnal digwyddiadau codi sbwriel gwirfoddol mewn wardiau ledled y ddinas fel rhan o’r ymgyrch Carwch Eich Cartref. Mae’r cynllun wedi’i gynllunio fel y gall cymunedau ddod at ei gilydd i wella ysbryd cymunedol, gyda’r nod cyffredin o gadw ein strydoedd yn lân ac yn daclus.”
Dywedodd Gavin Ellis, Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd Hubbub: “Mae gennym gyfoeth o brofiad o fynd i’r afael â mathau penodol o sbwriel mewn amgylcheddau targedig ac rydym yn falch iawn o rannu’r hyn a ddysgom o ymgyrch ‘Bristol’s Binning’ gyda Chaerdydd i ddatblygu mentrau chwalu sbwriel ar gyfer yr ardal leol.”
Dywedodd perchennog McDonald’s lleol, Ralph Parker, sy’n berchen ar ac yn cynnal saith bwyty McDonald’s ledled Caerdydd: “Rydym yn gyffrous i fod yn rhan o brosiect sy’n dod â chymunedau a chynghorau lleol Caerdydd at ei gilydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Fel busnes sydd wedi ymrwymo i fod yn gymydog da, mae’n wych gweld lleisiau lleol yn cael eu gwrando a’u troi’n weithredu ystyrlon sydd o fudd i’r ardal ehangach. Trwy wneud biniau yn fwy trawiadol a diddorol, rydym yn gobeithio annog pobl i ofalu am Gaerdydd a’r lleoedd maen nhw’n eu galw’n gartref.”
“Cefnogir cronfa grant Neat Streets gan McDonald’s, sydd wedi ariannu prosiectau gyda Hubbub ers 2018. Mae McDonald’s yn mynd i’r afael â sbwriel mewn cymunedau lleol, trwy godi sbwriel a lleihau faint o wastraff y mae ei fwytai yn ei gynhyrchu. Mae’r brand wedi bod yn gweithio i wneud ailgylchu’n haws dros y pedair blynedd diwethaf hefyd, ac ers 2015, mae wedi gosod dros 1,100 o unedau ailgylchu newydd, sy’n golygu ei bod hi’n haws gwahanu plastigau a chwpanau i’w hailgylchu yn 85% o’i fwytai. Mae McDonald’s hefyd yn casglu olew defnyddiedig o’i geginau ac yn troi hyn yn ddigon o fiodiesel i bweru mwy na hanner ei fflyd gyflenwi.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i fynd i’r afael â sbwriel yn eich ardal leol, ewch i neatstreets.org.uk neu Hafan – Cadwch Gaerdydd yn Daclus
Nodiadau
¹ Roedd pum grant o £10,000 ar gael i gynghorau wneud cais amdanynt, gyda’r gofyn i gynghorau gyfrannu £5,000 eu hunain tuag at y prosiect
² Ffynhonnell: Caerdydd – 2024 – Cadwch Gymru’n Daclus
³ Cynhaliwyd yr arolwg barn gan Censuswide ar ran Hubbub rhwng 27.03.2024 a 03.04.2024. Sampl arolwg cynrychioliadol cenedlaethol o 3,000 o ymatebwyr.
Ynglŷn â Hubbub
Elusen amgylcheddol yw Hubbub. Eu nod yw ysbrydoli gweithredoedd sy’n dda i’r amgylchedd ac i bawb.
Maen nhw’n gwneud hyn trwy greu ymgyrchoedd sy’n canolbwyntio ar bynciau sy’n bwysig i bobl ac sydd hefyd yn cael effaith fawr, fel y bwyd rydym yn ei fwyta, y dillad rydym yn eu gwisgo, mannau gwyrdd, a sut rydym yn cefnogi ein cymunedau. Rydym yn codi ymwybyddiaeth ac yn rhannu gweithredoedd y gallwch eu gwneud gartref, yn y gwaith neu yn eich cymuned. Gweithredoedd sy’n syml, yn aml yn hwyl, ac sydd bob amser yn werth chweil.
Ers 2014, mae Hubbub wedi cyflwyno mwy na 154 o ymgyrchoedd amgylcheddol arloesol mewn cydweithrediad â dros 2,500 o bartneriaid, gan helpu i newid y ddadl genedlaethol ar faterion amgylcheddol allweddol fel gwastraff bwyd, ffasiwn gynaliadwy, ailddefnyddio a dietau cynaliadwy. Mae ymgyrchoedd Hubbub yn cynnwys #InTheLoop, a ddaeth â 25 o gwmnïau mwyaf y DU at ei gilydd i ddechrau er mwyn hybu ailgylchu ar y stryd fawr, a thrwy becyn cymorth dyblygadwy mae bellach mae wedi ehangu ar draws saith dinas, wedi lansio partneriaeth 3 blynedd gydag IKEA i greu ymgyrch gynaliadwyedd fwyaf y byd sy’n wynebu’r defnyddiwr, ‘Live LAGOM’, ac wedi creu rhwydwaith o dros 450 (ac yn cyfri) o Oergelloedd Cymunedol ledled y DU a oedd, yn 2022, wedi rhannu gwerth 16.9 miliwn o brydau bwyd dros ben yn ystod 1.2 miliwn o ymweliadau.
https://www.hubbub.org.uk/
Instagram: @helloHubbub
LinkedIn: Hubbub-UK
Facebook: @HubbubUK
Ynglŷn â McDonald’s
Mae McDonald’s wedi bod yn gweithredu yn y DU ers 1974. Ar hyn o bryd mae’r busnes yn gweithredu mwy na 1,560 o fwytai ledled y DU ac Iwerddon, gan wasanaethu dros dair miliwn o gwsmeriaid bob dydd. McDonald’s yw un o gyflogwyr sector preifat mwyaf y DU, gan gyflogi mwy na 159,000 o bobl, ac mae’n gweithio gyda dros 29,000 o ffermwyr ym Mhrydain ac Iwerddon.
Gallwch ddilyn holl newyddion diweddaraf McDonald’s yn y DU ar Instagram @mcdonaldsukinews
Comments are closed.