Mae Gwanwyn Glân Cymru ac Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion yn ôl ar gyfer 2026.
Mae Cadw Cymru’n Daclus yn galw ar unigolion, teuluoedd, grwpiau, ysgolion a busnesau i weithredu rhwng 13 a 29 Mawrth.
Ers 2016, mae degau ar filoedd o arwyr sbwriel wedi dangos eu bod yn caru eu cartref trwy gasglu tunelli o sbwriel ac ailgylchu.
P’un ai eich bod wedi hen arfer, neu’n newydd i godi sbwriel, mae gennym yr holl wybodaeth a’r cyngor sydd ei angen arnoch i ddechrau arni.
Gallwch:
- Trefnwch eich digwyddiad glanhau eich hun (neu sawl un) yn ystod Gwanwyn Glân Cymru. Cofrestrwch y manylion ar y tudalen hon.
- Ymuno â digwyddiad glanhau wedi ei drefnu – ewch i’r map am fanylion digwyddiadau agored sy’n cael eu cynnal gan CCD, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill.
- Os ydych chi’n ysgol, ymunwch â’r Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion.
Cofrestru digwyddiad glanhau
Os ydych yn unigolyn, yn aelwyd, yn grŵp cymunedol neu’n fusnes, ewch i Gwanwyn Glân Cymru 2026 – Keep Wales Tidy – Caru Cymru i gofrestru eich digwyddiad glanhau.


Comments are closed.