Hoffai Carwch Eich Cartref ddiolch yn fawr iawn i wirfoddolwyr Caerdydd a dathlu 12 mis anhygoel o weithredu fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr 2022.
Er gwaethaf yr angen i addasu i lefelau rhybudd Covid-19 amrywiol yn 2021 a 2022, mae ein gwirfoddolwyr wedi cwblhau mwy o weithgareddau nag erioed ers mis Ebrill y llynedd. Cynhaliwyd dros 5500 o weithgareddau rhwng mis Ebrill 2021 a mis Ebrill 2022, a arweiniodd at gasglu 14,847 o fagiau o sbwriel – roedd 858 o’r rheini’n fagiau o ddeunydd ailgylchadwy, wedi’u gwahanu’n ddiwyd gan wirfoddolwyr wrth gasglu sbwriel.
Llwyddodd casglwyr sbwriel unigol penodedig a sesiynau glanhau cymunedol a drefnwyd gan drigolion lleol i wneud cyfanswm o 14,663 o oriau gwirfoddoli rhyngddynt dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda grwpiau casglu sbwriel newydd yn ffurfio a diddordeb mawr yn y Cynllun Ymgyrchwyr Sbwriel.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus a Chyngor Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi’r holl weithgareddau gwirfoddol. Dywedodd Charlotte, o ymgyrch Carwch Eich Cartref Cyngor Caerdydd:
“O’m blwyddyn gyntaf yn cydlynu Carwch Eich Cartref, rwyf wedi fy ysbrydoli gymaint gan wirfoddolwyr anhygoel Caerdydd sy’n rhoi o’u hamser a’u hegni i wella ein dinas.
Rydym mor lwcus, ac mae’n anrhydedd i weithio gyda phobl mor anhygoel, sy’n gweithredu, yn gwneud cymaint o wahaniaeth yn eu hardal ac yn grymuso eraill i ymuno hefyd. Mae’n wych gweld y gymuned yn tyfu, gweld y cyfeillgarwch rhwng ffrindiau newydd, a gweld trigolion yn teimlo’n agosach at eu cymdogion a’u cymdogaethau”.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn gweithgareddau casglu sbwriel gwirfoddol, mae sawl ffordd o gymryd rhan. Cymerwch olwg ar ein blog i ddysgu mwy am y gwahanol weithgareddau sy’n digwydd yng Nghaerdydd –
Comments are closed.