Oeddech chi’n gwybod bod gwastraff nad ydyw’n bosibl ei ailgylchu yng Nghaerdydd yn cael ei ddefnyddio i greu trydan? Mae Cyfleuster Adennill Ynni Caerdydd sy’n cael ei redeg gan Viridor yn delio â 350,000 tunnell o wastraff gweddilliol bob blwyddyn, gan greu 30MW o drydan. Mae hynny’n ddigon i greu ynni ar gyfer 50,000 o gartrefi! Mae ‘na dipyn o wyddoniaeth yn sail i’r dechnoleg ddiweddaraf yma, felly dyma Mark Poole o Viridor i esbonio mwy.
Beth yw eich swydd yn Viridor?
Rheolwr y Ganolfan Addysgol a Buddion Cymunedol. Fi sy’n trefnu’r ymweliadau i bob safle – gan bawb o ysgolion cynradd i wleidyddion. Rhan o fy swydd yw helpu i hybu Cronfa Gymunedol Caerdydd mewn partneriaeth â’r Prosiect Gwyrdd. Mae’r gronfa’n cyfrannu hyd at £50,000 y flwyddyn i sefydliadau elusennol lleol
Mae hynny’n swnio’n gyffrous. Faint o gymunedau sydd wedi derbyn cymorth o’r gronfa fuddion gymunedol eisoes?
Rydym wedi helpu 16 o sefydliadau hyd yn hyn eleni, ac wedi cyfrannu £37,261. Mae gweithio gyda chymunedau yn rhan bwysig o fy swydd ac rydym yn gwirfoddoli ein gwasanaethau i sefydliadau yn ein hardal, fel Cadw Sblot yn Daclus, drwy helpu i gasglu sbwriel gyda’r gymuned.
Pam fod Adennill Ynni yn well na thirlenwi?
Mae’n darparu ynni adnewyddadwy glan, naill ai ar ffurf trydan neu ynni thermol. Mae’r isgynnyrch i gyd yn cael ei ddefnyddio gan eraill – naill ai’n cael ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio – ac mae’n lleihau nwyon tŷ gwydr.
Pa fath o dechnoleg mae Viridor yn ei defnyddio i gadw’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu yn lân?
Technoleg arloesol o’r radd flaenaf fel y system fonitro allyriadau parhaus, sy’n cadw llygad ar yr allyriadau sy’n gadael y corn simdde bedair awr ar hugain y dydd. Yn ychwanegol, mae’r tyrbin nid yn unig yn creu’r trydan sy’n mynd i’r grid, ond hefyd yn creu ynni thermol i wresogi’r ardal. Mae rhan o’r ager sy’n mynd i’r tyrbin yn cael ei throsglwyddo i wresogi elfennau hanfodol o’r broses.
Beth yw’r wyddoniaeth sy’n sail i’r allyriadau?
Rydym yn ychwanegu calch a charbon actifedig i niwtraleiddio’r nwyon asid, ac arsugno’r metalau trwm, diocsinau a ffwranau. Unwaith y mae’r cemegau hyn wedi’u hychwanegu, mae’r nwyon o’r corn simdde yn cael eu hidlo drwy sachau enfawr sy’n cael eu galw’n fagiau hidlo. Mae’r rhain yn tynnu’r llwch mân a’r adweithiau sy’n cael eu galw’n Waddodion Rheoli Llygredd Aer (GRLlA) Mae ffaniau mawr yna’n tynnu’r nwyon glân drwy’r pibelli dŵr, sy’n cael eu rhyddhau ar ffurf tarth o’r simneiau.
Felly mae modd i’r cyhoedd gael gweld y safle…. Faint o ymweliadau sydd mewn blwyddyn?
Tua 120 ymweliad y flwyddyn – mae hynny’n 2,500 o ymwelwyr. Mae’r rhan fwyaf yn ysgolion cynradd a grwpiau o brifysgolion, ond mae’r gweddill yn cynnwys grwpiau addysgol cymysg, grwpiau proffesiynol, cwmnïau ar gontract a chynghorwyr.
Os mai delio â gwastraff gweddilliol y mae eich cwmni, pam ddylen ni ailgylchu?
Mae ailgylchu’n neges bwysig dwi’n hybu yn fy swydd. Os oes deunyddiau sy’n gallu cael eu hailgylchu yn cyrraedd y safle, fe fyddan nhw’n cael eu llosgi gyda gweddill y gwastraff gweddilliol. Gallai’r deunydd yma fod wedi cael ei defnyddio, ac felly’n chwarae rhan fawr yn yr economi gylchol.
Cyhoeddedig: | 25/05/2017 |
Comments are closed.