Carwch eich cartref

Mae Carwch Eich Cartref yn brosiect gwirfoddoli a newid ymddygiad. Ei nod yw cefnogi gwirfoddolwyr a chymunedau sy’n dymuno glanhau Caerdydd.

Mae trigolion Caerdydd wrth eu bodd â’n dinas ac yn falch ohoni. Mae’r holl gymorth y mae ein gwirfoddolwyr yn ei gynnig yn ychwanegu at ein cymunedau ac yn gwneud gwahaniaeth mawr iddynt.

Gall yr help hwn gynnwys:

  • Ymuno â’ch Grŵp Cymunedol lleol ar gyfer Casglu Sbwriel.
  • Dod yn wirfoddolwr unigol Codi Sbwriel.
  • Dod yn Ymgyrchydd Gadewch Ond Olion Pawennau.
  • Lledaenu’r gair da am ein hymgyrchoedd gwrth-sbwriel.
  • Neu hyd yn oed adrodd am faterion fel tipio anghyfreithlon i Cysylltu â Chaerdydd.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu eich cymuned leol trwy godi sbwriel yn eich ardal leol? Mae sawl ffordd yng Nghaerdydd i gymryd rhan mewn codi sbwriel. O godi sbwriel fel unigolyn, i ymuno â grŵp neu hyd yn oed gael eich gweithle yn rhan o’r gweithle.

I gael gwybod mwy, cliciwch ar y penawdau isod.

Dewch yn Ymgyrchydd Sbwriel

Mae’r cynllun Ymgyrchwyr Sbwriel hwn yn berffaith ar gyfer unigolion. Y rhai a hoffai’r opsiwn o fenthyg pecyn codi sbwriel ar sail hyblyg. Fodd bynnag, nid yw’r cynllun hwn ar gael i grwpiau sy’n dymuno benthyg bwndeli cit. I gofrestru ar gyfer y cynllun, cysylltwch â thîm Carwch Eich Cartref. Byddwch yn cael Llyfryn Ymgyrchwyr Sbwriel i’w ddarllen a ffurflen gofrestru.

Os byddwch chi’n cofrestru fel Ymgyrchydd Sbwriel, byddwch yn:

  • Cael cerdyn llyfrgell Carwch Eich Cartref. Bydd hyn yn rhoi mynediad i chi fenthyg offer codi sbwriel a bagiau pinc o’ch hyb/llyfrgell leol.
  • Gallu gwaredu’r sbwriel yn y bagiau pinc wrth ymyl biniau sbwriel y Cyngor.
  • Cael gwybodaeth iechyd a diogelwch i’ch cadw chi ac eraill yn ddiogel.
  • Rhoi gwybod am eich gweithgareddau casglu sbwriel. Er mwyn iddynt gael eu dathlu a’u defnyddio i gynllunio ymgyrchoedd gwrth-sbwriel. Bydd hyn hefyd yn rhoi mynediad i chi at Gredydau Amser Tempo, i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Tempo cliciwch yma.
  • Rydyn ni’n ei gwneud hi’n syml i fod yn rhan o’r byd gwerth chweil o godi sbwriel!

Bydd ein criwiau ond yn casglu’r bagiau pinc sydd wedi’u darparu ar gyfer gwirfoddolwyr. Fyddan nhw DDIM yn casglu bagiau du.

Arwyr Sbwriel

Rydym yn cynnal cynllun Arwyr Sbwriel ar gyfer unrhyw blant dan 18 oed. Gan fod rhaid i bob Ymgyrchydd Sbwriel fod dros 18 oed.

Pan fyddwch chi’n cofrestru fel Ymgyrchydd Sbwriel, gallwch gofrestru unrhyw blant dan 18 oed fel Arwr Sbwriel oddi danoch chi. Gall plant sydd wedi’u cofrestru fel Arwyr Sbwriel wedyn ennill tystysgrifau a gwobrau. Y cyfan y bydd angen i chi ei wneud yw cofnodi oriau casglu sbwriel gyda ni.

 

Cysylltwch â’r tîm ar 029 2071 7564 neu carwcheichcaerdydd@caerdydd.gov.uk

Grŵpiau Casglu Sbwriel

Grwpiau Cymunedol

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’ch grŵp casglu sbwriel cymunedol lleol? Mae sawl grŵp ledled y ddinas yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr. Mae’r grwpiau i gyd yn groesawgar iawn a gallwch fynd i’r mwyafrif o’u digwyddiadau ar y diwrnod, nid oes angen archebu.

Mae’r grwpiau casglu sbwriel sydd ar gael i’w gweld ar y dudalen yn y ddolen hon. Ar y dudalen honno rydym hefyd yn rhestru’r digwyddiadau sydd ar ddod gan y grwpiau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu digwyddiad neu ymuno â grŵp, gallwch gysylltu â nhw’n uniongyrchol i ddarganfod mwy.

Gwirfoddoli gyda Grŵp neu Weithle

Oes gennych chi grŵp o bobl sydd â diddordeb mewn gwneud digwyddiad casglu sbwriel untro? Gallai hyn fod yn elusen, grŵp tywys / sgowtio neu weithle. Mae yna ychydig o opsiynau i gael eich grŵp allan i gasglu sbwriel.

Yr opsiwn mwyaf hyblyg yw defnyddio un o hybiau casglu sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus ledled Caerdydd. Maent yn caniatáu i chi fenthyg offer ar gyfer grwpiau am y diwrnod neu ychydig ddyddiau. Maent hefyd yn darparu asesiadau risg a bagiau coch ar gyfer y digwyddiadau grŵp hyn. I ddarganfod mwy ac i ddod o hyd i’ch Hyb CGD lleol, cliciwch ar y ddolen hon.

Gallwch hefyd gysylltu â thîm Carwch Eich Cartref. Gallwn roi cyngor ar y gwahanol opsiynau sydd ar gael i’ch grŵp.

 

Cysylltwch â’r tîm ar 029 2071 7564 neu carwcheichcaerdydd@caerdydd.gov.uk

Codi Ymwybyddiaeth am Ailgylchu

Mae cyfrannu trwy ailgylchu a chompostio yn hanfodol i’r ddinas. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu heriol sy’n uwch na’r targedau a osodwyd yn Lloegr. Mae ar y ddinas angen ailgylchu a chompostio 64% o’r gwastraff erbyn 2020 a chynyddu hynny i 70% erbyn 2025.

Hoffem ni ddiolch i’r rhai sy’n gweithio gyda ni ac yn gwahanu eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.

Gall holl awdurdodau lleol Cymru wynebu cosbau ariannol os nad ydynt yn cyrraedd y targedau. Gall hyn fod cymaint â £400 000 am bob pwynt canran dan y targed y maen nhw. Mae o fudd i’r trethdalwr bod pawb yn chwarae eu rhan ac yn ailgylchu a chompostio cymaint o’u gwastraff ag sy’n bosib.

Sut i wahanu eich gwastraff

Targedu myfyrwyr

Casglu Sbwriel Ysgol

Mae tîm Carwch Eich Cartref yn cynnig ymweliadau ysgol i’r holl ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghaerdydd. Gallwn eich cynorthwyo i fynd â’ch dosbarth ar weithgaredd codi sbwriel o’r parc/ardal leol.

Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig ar y gweithgaredd codi sbwriel:

  • Helpu i ddewis lleoliad priodol ar gyfer codi sbwriel gyda’ch dosbarth. Mae hwn fel arfer yn barc lleol neu iard yr ysgol.
  • Cwblhau asesiad risg o’r ardal.
  • Sgwrs cyn y casglu sbwriel ar y pwnc sbwriel gyda’r plant.
  • Sesiwn friffio iechyd a diogelwch gyda’r plant cyn y gweithgaredd codi sbwriel.
  • Dod â’r offer a’r bagiau priodol.

 

Beth mae’n rhaid i’r ysgol ei wneud i baratoi ar gyfer codi sbwriel:

  • Rhowch y nifer o blant a ddisgwylir ymlaen llaw. Nid yw’n briodol cymryd mwy na dosbarth o 30 o blant allan ar yr un pryd. Os oes gennych grŵp mwy, gallwn drafod opsiynau wrth gynllunio.
  • Darparu’r gymhareb addas o staff/oedolion i ddisgyblion ar y diwrnod. Ni allwch gynnwys tîm Carwch Eich Cartref yn nifer y goruchwylwyr gan na fyddwn yno yn y rôl honno.

Cysylltwch â’r tîm ar 029 2071 7564 neu carwcheichcaerdydd@caerdydd.gov.uk

 

Efallai y byddai’n well gennych arwain y gweithgaredd codi sbwriel eich hun neu fel gweithgaredd dosbarth rheolaidd. Os felly, gallwch fenthyg offer o hybiau Cadwch Gymru’n Daclus yng Nghaerdydd. Mae’r hybiau wedi’u lleoli ledled y ddinas ac yn benthyg offer ar gyfer gweithgareddau grŵp. Cliciwch y ddolen hon i ddod o hyd i’ch hyb lleol.

 

Tywys a Sgowtio

Mae tîm Carwch Eich Cartref yn cynnig bathodyn Carwch Eich Cartref ar gyfer grwpiau Sgowtio ac Tywys. Mae’n hollol rhad ac am ddim i bob uned yng Nghaerdydd.

Mae’n gwbl rhad ac am ddim i gymryd rhan a gallwn anfon bathodynnau i’ch uned.

Cysylltwch â’r tîm ar 029 2071 7564 neu carwcheichcaerdydd@caerdydd.gov.uk

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© Keep Cardiff Tidy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd