Mae Carwch Eich Cartref yn brosiect gwirfoddoli a newid ymddygiad. Ei nod yw cefnogi gwirfoddolwyr a chymunedau sy’n dymuno glanhau Caerdydd.
Mae trigolion Caerdydd wrth eu bodd â’n dinas ac yn falch ohoni. Mae’r holl gymorth y mae ein gwirfoddolwyr yn ei gynnig yn ychwanegu at ein cymunedau ac yn gwneud gwahaniaeth mawr iddynt.
Gall yr help hwn gynnwys:
- Ymuno â’ch Grŵp Cymunedol lleol ar gyfer Casglu Sbwriel.
- Dod yn wirfoddolwr unigol Codi Sbwriel.
- Dod yn Ymgyrchydd Gadewch Ond Olion Pawennau.
- Lledaenu’r gair da am ein hymgyrchoedd gwrth-sbwriel.
- Neu hyd yn oed adrodd am faterion fel tipio anghyfreithlon i Cysylltu â Chaerdydd.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu eich cymuned leol trwy godi sbwriel yn eich ardal leol? Mae sawl ffordd yng Nghaerdydd i gymryd rhan mewn codi sbwriel. O godi sbwriel fel unigolyn, i ymuno â grŵp neu hyd yn oed gael eich gweithle yn rhan o’r gweithle.
I gael gwybod mwy, cliciwch ar y penawdau isod.

