Os ewch chi heibio Depo Lamby Way, efallai fe welwch un o’n haelodau tîm mwy anarferol – ein cyfeillion pluog, sef Hebogiaid Harris. Nid pob gweithle sydd ag adar ysglyfaethus ar waith, felly cawsom sgwrs â’r Hebogydd i ddysgu ychydig mwy…
Pam mae Hebogiaid ar ddyletswydd yn y safle tirlenwi?
Yn wreiddiol, cyflwynwyd yr hebog i reoli nifer y gwylanod yn y safle tirlenwi. Ar ôl cau’r safle tirlenwi i wastraff gweithredol, symudodd yr HEBOG at yr adran CAD yn Lamby Way, gan fod y gwylanod yn bwydo oddi ar y gwydr yno yn benodol. Mae angen rheoli adar i ryw raddau o dan drwydded Atal a Rheoli Llygredd Integredig Lamby Way.
Pa mor bell y gall eich Hebog hedfan cyn bod angen iddo fynd yn ôl at y triniwr?
Mae’r safle tirlenwi’n rhyddhau digon o wres fel y gall gynhyrchu ei gerrynt thermal ei hun, ac o ganlyniad i hyn, gall yr hebog barhau i hedfan gan ddefnyddio dim ond ychydig o egni am fwy nag awr ar y tro.
Pam ydym ni’n dal i ddibynnu ar Hebog i gyflawni’r swydd hon yn yr unfed ganrif ar hugain?
Y gwir amdani yw mai’r hebog yw’r creaduriaid gorau ar gyfer y swydd. Mae’n rhan o natur gwylanod i fod ofn Hebogiaid ac mae Hebogiaid yn gallu mynd ar drywydd gwylanod mewn ffordd na all unrhyw ddyn na thechnoleg wneud.
Pa frîd yw’r Hebog?
Ar hyn o bryd, mae gan Lamby Way ddau Hebog Harris ar y safle. Pan oedd y safle tirlenwi yn llwyr weithredol, roedd yna ddau Hebog Saka ychwanegol a oedd yn llawer llai a chyflymach, ac o ganlyniad, yn beryglus iawn os oeddech chi’n wylan!
Cyhoeddedig: | 28/06/2017 |
Comments are closed.