Ym Mhencadlys rheoli gwastraff, rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod y ganolfan ailgylchu newydd yn Ffordd Lamby ar agor yn swyddogol!
Y ganolfan ailgylchu newydd gwerth £1.2m yn Ffordd Lamby yw’r fwyaf yn y brifddinas bellach, gyda lle ar gyfer wyth gwaith yn fwy o geir ar y safle safle ar unrhyw un adeg nag a fu gynt.
Mae gan y safle newydd yn Ffordd Lamby 20 cynhwysydd gwastraff gwahanol sy’n gallu casglu llu o gynhyrchion gwahanol i’w hailgylchu gan gynnwys deunyddiau newydd; plastig caled, carpedi, teiars a ffenestri UpVC.
Oherwydd hynny, bydd yn haws nag erioed i ailgylchu mwy nag erioed!
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glan, Ailgylchu a’r Amgylchedd: “Mae’r cyfleuster hwn wedi’i ddylunio fel y gall y cyhoedd wahanu cymaint o gynhyrchion â phosibl i’w hailgylchu ac mae hynny’n bwysig oherwydd mae mwy ohonom ni yn trio gwneud popeth yn ein gallu i helpu’r blaned.”
Os nad ydych chi erioed wedi defnyddio canolfan ailgylchu o’r blaen, mae amrywiaeth enfawr o bethau y gallwch eu hailgylchu yng Nghaerdydd nad oes modd eu hailgylchu drwy’r gwasanaethau casglu bagiau gwyrdd. Felly os ydych yn taflu bylbiau goleuadau, metel sgrap neu eitemau trydanol (ymhlith llawer o eitemau eraill), ymwelwch ag un o’r canolfannau. Cewch fwy o wybodaeth am ganolfannau ailgylchu Caerdydd yma.
Cyhoeddedig: | 24/07/2017 |
Comments are closed.