Erioed wedi meddwl beth sy’n digwydd i’ch gwastraff cyffredinol ar ôl i ni ei nôl? Yma yng Nghaerdydd rydym yn anfon eich holl wastraff cyffredinol i llosgydd (neu Gyfleuster Adfer Ynni) yn Sblot, sy’n cael ei redeg gan gwmni o’r enw Viridor.
Mae’r Cyfleuster Adfer Ynni hwn ym Mharc Trident wedi’i ddefnyddio gan Gyngor Dinas Caerdydd ers 2014, sy’n golygu nad oes unrhyw ran o’ch gwastraff wedi myn di safle tirlenwi ers hynny. Gall y cyfleuster ddelio â hyd at 350,000 tunnell o wastraff cyffredinol bob blwyddyn!
Yma maen nhw’n llosgi’ch holl wastraff nas ailgylchwyd, ac yn defnyddio ynni’r gwres a grëir i bweru 50,000 o dai.
Os hoffech ddysgu rhagor am yr hyn sy’n digwydd yn y Cyfleuster Adfer Ynni, gallwch drefnu trip ysgol i’r Ganolfan Ymwelwyr gyfoes. Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am drefnu trip yma.
Cyhoeddedig: | 10/01/2017 |
Comments are closed.