Mae Triniaeth Gwastraff Bwyd yn dod i Gaerdydd
Y peth gorau allwn ni ei wneud gyda’n bwyd yw ei fwynhau. Ond ni ellir osgoi peth gwastraff bwyd ac ydych chi erioed wedi ystyried beth sy’n digwydd i gynnwys eich cadis bwyd brown? Yng Nghaerdydd, rydym yn troi gwastraff bwyd yn fiodanwydd carbon niwtral trwy broses a elwir Treuliad Anaerobig. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae Treuliad Anaerobig yn gweithio yma.
Mae’r broses yma yn digwydd yma yng Nghaerdydd, gan gadw milltiroedd cludiant cyn ised â phosib. Mewn gwirionedd mae eich gwastraff bwyd yn creu digon o ynni adnewyddadwy i roi ynni i 400 o dai, gan droi gwastraff yn adnodd, a bod yn llesol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd
Agorodd y cyfleuster yn swyddogol gyda digwyddiad dathliadol ar 8 Mawrth 2017. Yn y digwyddiad hwn, a oedd yn dechrau yn Neuadd y Ddinas ac yn gorffen yn safle Kelda, cafodd plac ei ddadorchuddio.
Wyddech chi y gallwch ailgylchu’r holl fwydydd crai a heb eu coginio yn eich cadi bwyd brown a bod ailgylchu 6 bag te yn creu digon o ynni i ferwi’r tegell am baned arall?
Cyhoeddedig: | 31/03/2017 |
Comments are closed.