Ydych chi erioed wedi meddwl am beth yn union sydd ym miniau cartrefi a biniau sbwriel Caerdydd? Naddo mae’n debyg, ond yma yng Nghyngor Dinas Caerdydd, mae cynnwys eich bin yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ni i sicrhau bod y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn adlewyrchu arferion gwastraff newidiol y ddinas.
Rydym yn defnyddio techneg o’r enw Dadansoddiad Cyfansoddiad lle rydym yn llythrennol yn trefnu cynnwys y biniau gyda’n dwylo i mewn i gategorïau gwahanol. Nid yw’n swydd braf ond mae’n golygu eich bod yn gallu gweld faint o’r pethau cywir sy’n mynd i mewn i’r bin cywir a chreu ymgyrchoedd penodol i helpu pobl i ailgylchu mwy.
Nid oes angen i chi boeni amdanom yn mynd trwy eich sbwriel. Rydym yn cysylltu â’r holl drigolion y gallai’r astudiaethau hyn effeithio arnynt cyn iddynt ddechrau.
Mae gwaith dadansoddi fel hyn yn digwydd ledled y DU ac mae’r sefydliad cynaliadwyedd cenedlaethol WRAP, sy’n astudio cyfansoddiad sbwriel strydoedd y ddinas (o finiau a sesiynau codi sbwriel) ar hyn o bryd, yn ein helpu yng Nghaerdydd. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall pa fath o wastraff rydym yn ei waredu pan ydym allan o’n cartrefi a bydd fwy na thebyg yn sail ar gyfer ymgyrch i gynyddu ein “ailgylchu ar grwydr” yn y dyfodol!
Cyhoeddedig: | 10/04/2017 |
Comments are closed.