Yn ôl yr elusen amgylcheddol Hubbub, mae 7 miliwn o gwpanau coffi yn cael eu taflu i ffwrdd bob dydd yn y DU!
Mae’n ystadegyn syfrdanol, ond yn y DU dim ond 0.25% o gwpanau coffi un tro a gaiff eu hailgylchu yn ôl Pwyllgor Archwilio’r Amgylchedd y DU (EAC). Pam felly? Wel, y broblem gyda chwpanau coffi (a chynwysyddion diodydd eraill o ran hynny) yw’r gymysgedd o gerdyn a gorchudd plastig o fewn y cardfwrdd, sy’n anodd iawn ei wahanu i’w ailgylchu, ac sydd angen triniaeth ychwanegol, sy’n ddrud iawn.
Mae coffi ar glud yn fwy poblogaidd bob dydd, felly er mwyn mynd i’r afael ag effaith amgylcheddol cwpanau un tro, mae’r EAC wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ystyried codi ardoll o 25c, er mwyn annog newid ymddygiad ymhlith cwsmeriaid, gan adeiladu ar lwyddiant y tâl ar fagiau plastig.
Mae’r Llywodraeth fodd bynnag wedi gwrthod y syniad o godi ardoll, gan gredu yn hytrach y dylai busnesau ymrwymo’n wirfoddol i gynnig disgowntiau i gwsmeriaid sy’n dewis defnyddio cwpanau amldro, a rhoi gwell labeli a gwybodaeth am ailgylchu ar gwpanau un tro.
Felly, i grynhoi, gan fod cwpanau coffi mor anodd a drud i’w hailgylchu, a bod siopau coffi yn aml yn roi disgownt i gwsmeriaid sy’n defnyddio eu cwpanau eu hunain, ein cyfrifoldeb ni yw gwneud y peth iawn a dechrau defnyddio cwpanau amldro os nad ydym wedi gwneud hynny eisoes.
Mae digon o gwpanau amldro ar gael. Maent ar werth yn eich hoff siopau coffi, wedi’u gwneud o amrywiaeth o ddeunyddiau. Mae hyd yn oed rai sy’n plygu’n fflat ar gael sy’n hawdd eu cludo. Mae’n amser newid.
Cyhoeddedig: | 19/03/2018 |
Comments are closed.