Beth yw ymgyrch ‘Gadewch ond Olion Pawennau’?
Ffordd gyfeillgar, anymosodol o newid agweddau ac ymddygiad o ran baw cŵn.
Mae perchnogion cŵn a’u cŵn yn cofrestru i fod yn Ymgyrchwyr lleol, gan arwyddo’r Addewid, a gellir eu nabod gan fathodynnau bychain ‘Gadael Dim Ond Ôl Troed’ y gallan nhw a’u cŵn eu gwisgo. Maen nhw’n cario bagiau ychwanegol felly os nad oes gan berchennog ci fag gallant ofyn i Ymgyrchydd.
Yr Addewid Gadewch ond Olion Pawennau
- Byddaf yn glanhau ar ôl fy nghi bob tro ac yn gwaredu’r bag yn briodol.
- Byddaf i a’m ci yn gwisgo’n bathodynnau Ymgyrchydd lle bo’n bosibl i ddangos i eraill ein bod yn Ymgyrchwyr.
- Byddaf yn cario bagiau ychwanegol i’w rhoi i bobl os oes angen.
- Er fy mod yn Ymgyrchydd ni fyddaf yn herio cerddwyr cŵn eraill am adael i’w cŵn faeddu. Deallaf nad ymgyrch sy’n hybu gwrthdaro rhwng pobl yw ‘Gadewch ond Olion Pawennau’ ond mae’n ffordd gyfeillgar o atgoffa cerddwyr cŵn eraill i newid agweddau ac ymddygiad.
- Cytunaf i gymryd rhan mewn arolygon ymgyrch gan Gyngor Caerdydd.
I gael gwybod mwy, neu i ddod yn ymgyrchydd, cysylltwch â’r tîm ar 029 2071 7564 neu carwcheichcaerdydd@caerdydd.gov.uk neu yma.
A pheidiwch ag anghofio y gallwch roi gwybod am achosion o faw cŵn drwy gyfrwng App Cyngor Caerdydd.
Comments are closed.