Dyna’r neges gan ein ffrindiau yn “Caru Eich Dillad” ac mae’n haws nag y byddech yn ei feddwl. Mae caffis yn ymddangos ledled y ddinas ac, wedi cael fy ysbrydoli gan yr ethos, fe es i i weithdy Caru Eich Dillad i ddysgu tric neu ddau, i wneud i fy hoff ddillad bara ychydig yn hirach.
Rwy’n berchen ar beiriant gwnïo. Fe etifeddais un gan fy hen Fodryb. Ond rhaid i mi gyfaddef nad ydw i byth wedi’i ddefnyddio – mae’n edrych yn gymhleth, ac felly byddwn i’n dewis pwytho’n anniben â fy nwylo. Rydw i wedi arfer â gwneud pethau, ond mae fy sgiliau trwsio’n ddigon simsan.
Yn y gweithdy Caru Eich Dillad, dysgais sut i edafu peiriant gwnïo, byrhau a hemio pâr o drowsus a thrwsio twll mewn hen ddilledyn hoffus, gan roi bywyd newydd iddo. Fodd bynnag, cefais fy synnu gan ba mor hawdd mae hyn (cymaint haws na gwneud pethau â llaw!)
Fodd bynnag, os nad oes gennych beiriant gwnïo, peidiwch becso. Mae Caru Eich Dillad wedi creu nifer o diwtorialau fideo defnyddiol yn amrywio o drwsio twll yn eich poced i lanhau staeniau bwyd. Cymrwch olwg.
Cyhoeddedig: | 06/02/2018 |
Comments are closed.