Wrth edrych ar faint o sbwriel sydd ar ein strydoedd, weithiau gall clirio’r cyfan ymddangos fel o her anferthol. Gall casglu sbwriel mewn grŵp fod yn gyfle gwych i gwrdd â phobl yn eich cymuned a threulio rhywfaint o amser yn helpu i Gadw Caerdydd yn Daclus.
Grwpiau Casglu Sbwriel
Mae ein holl Ymgyrchwyr Sbwriel yn gwneud gwaith anhygoel yn helpu i lanhau eu hamgylchedd lleol ac mae digwyddiadau grŵp yn cynnig cyfle i bawb gwrdd â phobl eraill o’r un anian. Yn aml wrth ddechrau casglu sbwriel efallai na fydd pobl yn gwybod ble i ddechrau, ond drwy gynnal gweithgareddau grŵp gallwn helpu pobl i ddod i arfer â’r pethau y dylent ac na ddylent eu gwneud er mwyn codi sbwriel yn ddiogel. Mae hefyd yn ein galluogi i orchuddio ardal ehangach o dir a chodi llwyth o sbwriel! Mae hyn nid yn unig yn wych i’r gymuned ond hefyd i’r bywyd gwyllt sy’n byw yno. Maent yn creu ysbryd cymunedol gwych ac yn helpu i annog eraill i gymryd rhan a bod yn weithgar yn eu cymunedau lleol!
Sut gallwch chi gymryd rhan?
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn un o grwpiau casglu sbwriel lleol Caerdydd dilynwch y ddolen hon a chewch weld pa grwpiau sydd yn eich ardal chi!
Cymuned – Cadwch Gaerdydd yn Daclus
Mae’r holl ddigwyddiadau casglu sbwriel yn cael eu cynnal yn unol â chanllawiau’r cyfyngiadau covid presennol er mwyn sicrhau diogelwch pawb.
Os na allwch weld grŵp lleol ar gyfer eich ardal, gallech bob amser ystyried sefydlu un eich hun! Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch wneud hyn, cysylltwch â ni neu Cadwch Gymru’n Daclus!
Gallwch wrth gwrs ddod yn Ymgyrchwyr Sbwriel eich hun hefyd os nad ydych chi’n teimlo’n barod ar gyfer digwyddiad grŵp eto! Anfonwch e-bost atom yn carwcheichcartref@caerdydd.gov.uk i gael gwybod sut y gallwch gofrestru.
Cyhoeddedig: 29/06/2021
Comments are closed.