O oeddech chi’n gwybod yn y DG ein bod ni’n gwastraffu 5 miliwn tunnell o fwyd bwytadwy yn ein cartrefi bob blwyddyn? Mewn gwirionedd, gallai’r teulu cyffredin o bedwar arbed £70 y mis trwy leihau gwastraff bwyd a dod yn fwy craff gyda’u siopa a’u storio.
Yn ffodus, mae gan ein ffrindiau yn Caru Bwyd Casáu Gwastraff gynghorion da i’n helpu ni i gadw ar y llwybr a sefydlu arferion siopa bwyd da.
Mae Cynllunio’n Talu ar ei Ganfed
Cynllunio’ch prydau bwyd yw’r ffordd orau i osgoi gwastraff bwyd ac arbed arian. Cyn i chi fynd i siopa, edrychwch ar beth sydd eisoes yn eich oergell, eich rhewgell a’ch cwpwrdd storio. Lluniwch restr siopa a chadwch ati fel nad ydych yn cael eich temtio gan gynigion nad ydych chi eu hangen neu eu heisiau mewn gwirionedd.
Edrych ar Ddyddiadau
Mae camddeall labeli dyddiad bwyd yn rheswm cyffredin dros daflu bwyd sy’n hollol iach i’w fwyta. Mae’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn cyfeirio at y dyddiad y bydd bwyd yn anniogel i’w fwyta ar ei ôl. Peidiwch â bwyta bwyd ar ôl y dyddiad hwn ond cofiwch ei dynnu o’i becynnu a’i roi yn eich blwch bwyd brown ar gyfer y casgliad wythnosol. Mae’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ yn cyfeirio at ansawdd bwyd yn hytrach na diogelwch. Mae’r labeli dyddiad hyn yn fwy hyblyg o ran a oes modd bwyta’r bwyd. Os nad ydych yn siŵr – dibynnwch ar eich synhwyrau.
Storio Call
Nid ydych yn siŵr ble i storio’ch bwyd iddo bara mor hir â phosib? Yn aml bydd nodyn ar y pecyn bwyd i ddweud beth sydd orau i’r cynnyrch, felly cofiwch edrych.
Dognau Delfrydol
Ydy dogni’n drysu? Ydych chi bob amser yn gwneud gormod? Wrth goginio reis, mae chwarter cwpanaid yn fesur da i un person. Gyda spaghetti, ydych chi erioed wedi sylwi ar y twll yng ngwaelod llwy gweini spaghetti? Diben hwnnw yw mesur un ddogn o spaghetti – syniad gwych!
Os nad ydych yn gwneud gormod o fwyd, sicrhewch eich bod yn gwneud y mwyaf o’ch gweddillion bwyd trwy eu rhoi mewn cynhwysydd ar gyfer cinio’r diwrnod wedyn, a fydd yn arbed hyd yn oed mwy o arian!
Coginio Creadigol
Os nad ydych yn siŵr o ran beth i’w goginio o’r bwyd sydd gennych yn y tŷ, bydd llawer o wefannau ryseitiau’n cynnig dyrnaid o wahanol ryseitiau pan fyddwch yn chwilio am y cynhwysion sydd gennych. Byddwch yn fentrus, rhowch gynnig ar rywbeth newydd!
Mae gwefan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff hefyd yn llawn syniadau am ryseitiau sy’n iach i chi ac sy’n arbed arian.
Cyhoeddedig: | 15/01/2018 |
Comments are closed.