Mae llygredd plastigau yn y môr yn bwnc amserol, fel y dangosodd rhaglen Blue Planet 2 y BBC.
Mae’n gallu bod yn anodd cysylltu ailgylchu yn y cartref â phlastig yn y môr, ond bod yn bersonol gyfrifol am ein harferion fel defnyddwyr nwyddau sydd wrth wraidd effaith y ddynoliaeth ar yr amgylchedd. Yn ôl amcangyfrifon, mae tua 165 miliwn tunnell o lygredd plastig yn y môr ac erbyn 2050 efallai y bydd mwy o blastig na physgod (Sefydliad Ellen McArthur).
Sut mae plastig yn cyrraedd y môr?
Mae llawer o’r plastig o’n basgedi siopa wedi’i greu i gael ei ddefnyddio unwaith ac i gael ei daflu ar ôl hynny, ond os nad yw plastig yn cael ei daflu mewn modd cyfrifol, mae’n gallu cyrraedd y cyrsiau dŵr yn rhwydd. Mae plastig mewn safleoedd tirlenwi (ac yn ein cymdogaethau) yn gallu ymryddhau a chael ei gludo i’r môr ar hyd draeniau stormydd neu ar yr awel.
Mae plastig yn sylwedd unigryw oherwydd nad yw’n pydru – mae’n dadfeilio yn lle hynny. Felly, mae mwy a mwy plastig yn cronni yn y môr ac mae hynny’n peryglu’r bywyd gwyllt sy’n byw yno.
Serch hynny, gall problem ar raddfa mor fawr wneud i unigolion anobeithiol ynghylch eu gallu i ddylanwadu’n gadarnhaol. Felly beth allwn ni ei wneud? Os yw’r boblogaeth gyfan bob un yn gwneud ambell newid bach, mae modd cael effaith anhygoel.
Lleihewch:
Peidiwch â phrynu plastig untro wrth siopa. Mae’r nwyddau untro hyn, boed yn fag plastig neu’n welltyn yfed, yn rhai o’r mathau mwyaf cyffredin o blastig sy’n llygru’n moroedd. Wyddech chi y bu gostyngiad o 71% yn nifer y bagiau untro rhwng 2011 a 2014 yn sgil cyflwyno isafswm cost o 5c am fag siopa?
Ailddefnyddiwch:
Os byddwch chi’n defnyddio plastig, prynwch fathau y gallwch chi eu defnyddio eto. Wyddech chi fod angen hyd at dri litr o ddŵr i wneud potel sy’n dal un litr? Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n taflu’r botel ar ôl ei defnyddio unwaith yn unig.
Ailgylchwch:
Mae ailgylchu plastig yn gallu bod yn destun dryswch, oherwydd bod modd ailgylchu rhai mathau, ond nid mathau eraill. Yng Nghaerdydd mae modd i chi ailgylchu plastig lled galed neu “feddal” yn eich gwasanaeth casglu bagiau gwyrdd. Mae hynny’n cynnwys poteli bwydydd, diodydd, colur a nwyddau glanhau yn ogystal â photiau, tybiau, hambyrddau bwyd a thybiau ffrwythau. Ddylech chi ddim rhoi mathau ysgafn o blastig megis bagiau siopa yn y bag gwyrdd, ond mae rhai archfarchnadoedd mawr yn eu hailgylchu. Peidiwch â rhoi plastig caled neu anystwyth yn y bag gwyrdd. Mae modd ailgylchu hwn yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Cyhoeddedig: | 31/10/2017 |
Comments are closed.